Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 22 Medi 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
14.00 - 15.16 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: http://www.senedd.tv/Meeting/Archive/cfd2f6f8-400a-4f80-97c0-dbc5652792eb?autostart=True |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: MeetingTitle |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Melding AC (Cadeirydd) Suzy Davies AC Eluned Parrott AC Simon Thomas AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Bethan Jenkins AC Duncan Higgitt Matthew Richards |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
P Gareth Williams (Clerc) Ruth Hatton (Dirprwy Glerc) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Alys Thomas (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie James AC.
2 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3
2.1 CLA443 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffisiotherapyddion-ragnodwyr, Podiatryddion-ragnodwyr neu Giropodyddion-ragnodwyr Annibynnol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2014
2.2 CLA445 - Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) 2014
2.3 CLA447 – Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2014
Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt.
3 Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
3.1 CLA442 - Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) (Diwygio) 2014
3.2 CLA444 - Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014
Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau a bydd yn cyflwyno adroddiad i’r Cynulliad.
4 Papur i’w nodi
4.1 Gohebiaeth ynghylch Adolygiad Comisiynydd Plant Cymru
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunwyd i’w hystyried yn y sesiwn breifat.
5 Tystiolaeth mewn cysylltiad â’r Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru)
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Bethan Jenkins AC mewn cysylltiad â’r Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru).
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:
Cytunodd y Pwyllgor i gynnal gweddill y cyfarfod mewn sesiwn breifat.
6.1 Adroddiad Drafft ar y Bil Addysg Uwch (Cymru)
6.2 Blaenraglen waith